10 Gorffennaf 2019
Annwyl Ken,
Fframweithiau polisi cyffredin y DU
Yr wythnos diwethaf, cynhaliwyd cyfarfod ar gyfer Cadeiryddion Pwyllgorau i drafod datblygiad fframweithiau polisi cyffredin ar draws y DU sy’n deillio o broses Brexit. Cytunodd y Cadeiryddion i ysgrifennu at y Gweinidogion perthnasol i ofyn am ragor o wybodaeth i gynorthwyo â’r gwaith craffu pwysig ar y camau a gymerir.
Byddwn yn ddiolchgar felly pe gallech roi diweddariad i’r Pwyllgor yn cynnwys manylion:
· pa gamau sydd wedi eu cymryd i ddatblygu fframweithiau o fewn eich meysydd portffolio, a lle y mae datblygiad y fframweithiau arni;
· y sylfaen dystiolaeth i gefnogi penderfyniadau ar fframweithiau;
· strwythurau rhynglywodraethol sydd wedi cael eu sefydlu, neu sydd wrthi’n cael eu datblygu e.e. fforymau Gweinidogol ac ati;
· pa ganlyniad(au) a ddisgwylir o’r fframweithiau, o safbwynt deddfwriaethol ac anneddfwriaethol;
· sut y mae’r fframweithiau yn cysylltu â chamau cyfredol a chamau arfaethedig Llywodraeth Cymru, o safbwynt deddfwriaethol ac anneddfwriaethol (gan gynnwys lle bo fframweithiau yn gorgyffwrdd â phortffolios eraill); a
· sut y bydd maes pob fframwaith yn cael ei reoli os bydd y DU yn ymadael â’r UE heb gytundeb.
I helpu’r Pwyllgor i gynllunio ei waith craffu yn gynnar yn nhymor yr hydref, byddai’n ddefnyddiol pe gallem dderbyn eich ymateb erbyn 1 Medi.
Cofion cynnes,
Russell George AC
Cadeirydd
Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau